top of page

Ymadawyr gofal a myfyrwyr estronedig, mae cymorth ar gael yn y Brifysgol!

Mae gan ran fwyaf o brifysgolion heddiw cysylltiad allweddol ar gyfer Ymadawyr Gofal a Myfyrwyr Estronedig. Byddant nhw fel arfer wedi lleoli yn yr Adrannau Cymorth Myfyrwyr.

Os wyt ti wedi datgelu dy fod yn ymadawyr gofal ar dy gais UCAS, bydd y gwasanaethau cymorth fel arfer yn cysylltu gyda chi cyn cychwyn y cwrs. Os na ddatgeloch, neu os ydych wedi'i dieithrio a heb gael y cyfle i ddatgelu, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymorth yn eich prifysgol i weld pa gymorth a chynorthwyo sydd gyda chi hawl i dderbyn, os gwelwch yn dda.

Os aethoch trwy'r system gofal yn swyddogol, neu os digwyddodd y dieithriad yn hwyrach yn dy arddegau, efallai nac ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â Gwasanaethau Cymdeithasol o gwbl. Beth allech chi gael cymorth â:

• Cymorth gydag ymgeisio ar gyfer cyllid myfyrwyr, yn cynnwys creu cais a chysylltu gyda dy gwmni cyllid os oes yna unrhyw broblemau. • Cynorthwyo chi i reoli eich arian trwy gydol eich amser yn y brifysgol. • Cymorth gyda materion academaidd yn cynnwys cysylltu gyda dy diwtoriaid cwrs/adran academaidd. • Help gyda unrhyw materion tai: Darganfod llety, problemau gyda lletywyr etc. • Cyfeirio tuag at wasanaethau Prifysgol wahanol. • Ymgeisio ar gyfer ffynonellau ariannol ychwanegol megis y Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn/Cronfeydd Caledi neu ymddiriedolaethau elusennol. • Neu yn syml, rhywun i siarad gydag os ydych eisiau.

Cyllid Myfyrwyr Arferol:

Os ydych wedi bod mewn gofal neu yn gallu profi dieithriad oddi wrth eich rhieni, byddech yn cael eich trin fel myfyriwr 'annibynnol' ac yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr llawn. Os ydych wedi bod mewn gofal, dim ond llythyr wrth eich Gweithiwr Cymdeithasol sydd angen fel tystiolaeth.

Mae profi dieithriad yn gallu bod bach fwy heriol ac efallai bydd angen amrywiaeth o dystiolaeth arnoch. Fel esiampl, llythyr wrth eich ysgol neu goleg addysg bellach os oedd rhywun gydag awdurdod yn ymwybodol o eich sefyllfa. Mae'r casiau yma yn cael ei drin ar sail achos gan achos ond mae'r gwasanaethau cymorth yn y brifysgol yn gallu cynorthwyo gyda hyn. Mae yna hefyd sefydliad o'r enw StandAlone i gael sydd yn darparu gwybodaeth dda iawn ar gyfer myfyrwyr estronedig a sut i brofi dieithriad: http://standalone.org.uk/

Bwrsari Ymadawyr Gofal ym Mhrifysgol Caerdydd:

Mae gan ran fwyaf o brifysgolion cynllun Bwrsari Ymadawyr Gofal. Ym Mhrifysgol Caerdydd mae'r cynllun ar agor i ymadawyr gofal a myfyrwyr sydd wedi cael ei ddieithrio yn anghymodlon o ei rhieni. Edrychwch isod ar gyfer manylion a gwybodaeth am gymwysterau ar gyfer y cynllun. Gwiriwch gyda darparwyr Addysg Uwch unigol am ei gynlluniau nhw:

Y meini prawf cymwysterau:

Rhaid i chi fod yn fyfyriwr israddol llawn amser, wedi dechrau eich cwrs ym Medi 2012 neu yn hwyrach ac yn gallu derbyn cyllid fel myfyriwr "cartref". Mae hefyd angen hanes diweddar o fod mewn gofal neu wedi dieithrio:

Naill ai:

• wedi bod mewn gofal ar gyfer 6 mis o 14 blwydd oed neu • wedi bod mewn gofal ar gyfer 3 mis o 16 blwydd oed neu • wedi dieithrio yn anghymodlon o fy rhieni rhwng yr oedrannau o 16 blwydd oed a gadael ysgol neu coleg Addysg Bellach (Bydd rhain yn cael ei ystyried ar sail achos gan achos)

hefyd:

• wedi bod mewn gofal/yn estronedig yn y 10 blwyddyn ddiwethaf

Gwerth y wobr yw £3,000 ac yn fel arfer yn cael ei dalu: £1,000 yn y flwyddyn gyntaf, £750 ym mhob blwyddyn ddilynol a £500 ychwanegol yn y tymor olaf o dy radd, os ydych ar gwrs 3 blwyddyn. I gyd sydd angen i chi gwneud yw cwblhau ffurflen cais sydd ar gael ar yr intranet a chynnwys tystiolaeth o dy ymadael gofal/statws estronedig.

Cysylltwch!

Y brif neges yw cysylltu gyda'r brifysgol hoffech chi fyfyrio. Mae yna lwyth o gymorth ar gael ond mae'n fater o wybod y bobl gywir i siarad gyda. Trwy ddatgelu dy fod yn ymadawyr gofal ar dy gais UCAS, bydd cymorth ar gael o ddechrau'r broses.

Pob Lwc!

Dymuniadau Gorau, Paula Barker, Tîm Cyngor ac Arian

Prifysgol Caerdydd

Wedi cyfieithu gan Sophie McLaughlin

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page